Datganiad hygyrchedd ar gyfer gwasanaeth Swyddi a Phenodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â www.cais.tal.net

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Oleeo ar ran Llywodraeth Cymru. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi amhariad.  

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • mae rhai meddalwedd darllen sgrin yn cael anhawster gyda llif y cynnwys, gan gynnwys JAWS
  • mae rhai manylion gweithredu a chyfarwyddiadau ar gyfer meddalwedd darllen sgrin ar goll 
  • nid oes modd addasu’r uchder llinell neu’r bwlch rhwng testun
  • mae mynd heibio i’r gwiriad diogelwch ‘I am not a robot’ wedi bod yn heriol gyda rhai mathau o dechnoleg gynorthwyol 

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os cewch unrhyw anawsterau hygyrchedd neu os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod. Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch chi o fewn 3 i 5 diwrnod gwaith. Os ydych chi’n gwneud cais am swydd, rhowch wybod inni yn eich ymholiad fel y gallwn gysylltu â’r Rheolwr Recriwtio a threfnu estyniad os oes angen. 

  • E-bost DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru 
  • Rhif ffôn 0300 0604400 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am tan 5pm). Gallwch siarad â ni gan ddefnyddio gwasanaeth cyfnewid testun neu fideo

Desg Gymorth Cydwasanaethau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ.

Mae system dolen glywed yn ein swyddfeydd. Os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain. Ffoniwch neu e-bostiwch ni i gael cyfarwyddiadau os ydych yn ymweld.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Nid yw’r wefan hon yn cydymffurfio â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1. Mae’r ‘diffyg cydymffurfio’ yn cael eu rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw'r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid oes gan rai botymau destun amgen, felly ni fydd pobl sy’n defnyddio rhaglen darllen sgrin yn gallu cael yr wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf 1.1.1 WCAG 2.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Gwe-lywio a chael gwybodaeth

Nid yw hi bob tro’n bosibl newid sgrin y ddyfais o fod ar draws i fod ar i fyny heb ei gwneud hi’n anoddach gweld y cynnwys.

Nid yw hi’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y ffont heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.

Trafodion ac offer rhyngweithiol

Mae ein ffurflenni yn cael eu creu a’u cynnal drwy feddalwedd trydydd parti ac fe ddefnyddir ‘gwisg’ er mwyn iddynt edrych fel ein gwefan.

PDFs a dogfennau eraill

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.

Sut rydym yn gwella hygyrchedd

Rydym yn parhau i brofi’r wefan wedi i’r gwasanaeth fynd yn fyw ym mis Mehefin 2023, gan gwblhau archwiliad llawn. Yna byddwn yn gweithio gyda’n cyflenwr 3ydd parti i fynd i’r afael ag unrhyw faterion hygyrchedd a nodwyd. 

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20 Mehefin 2023. Adolygwyd ddiwethaf ar 20 Mehefin 2023.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ym mis Mehefin 2023. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan sawl profwr, gan gynnwys rhai â gwahanol fathau o dechnoleg gynorthwyol.