Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o’r enw cwcis ar eich dyfais. Mae’r cwcis yn:- hanfodol i’r safle weithioHoffem hefyd gadw rhai cwcis i helpu i:- wella ein gwefan drwy gasglu a rhoi gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio- deilwra cyfathrebiadau
LLYWODRAETH CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
.
Penodi Aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru - Aelod o'r Bwrdd a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd (ARAC) y Bwrdd
08/12/2025, 16:00
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi’ch cais, fodd bynnag, rhaid i’r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn uniongyrchol seiliedig ar eich profiad personol chi. Os canfyddir llên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich syniadau neu brofiadau chi) gellir tynnu’r ceisiadau yn ôl.
Gweler y canllawiau i ymgeiswyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial am ragor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n anablu pobl sydd ag amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwrowahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pawb a benodir i swydd gyhoeddus (neu benodeion newydd posibl) berfformio ar eu gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwrowahanol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Mae 'meini prawf gofynnol' yn golygu bod yn rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth i ni yn eu cais (a/neu eu prawf) eu bod yn bodloni'r lefel ofynnol o gymhwystra ar gyfer y rôl - Bydd paneli yn chwilio am dystiolaeth glir eich bod yn bodloni'r safon ofynnol ym mhob un o bedwar maes y fframwaith Penodiadau Cyhoeddus.
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Mae croeso ichi dynnu ar brofiad bywyd yn eich cais neu'ch cyfweliad pan fo hynny'n berthnasol.Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost y tîm recriwtio Penodiadau Cyhoeddus.. Gallwch:
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Gwneud Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglŷn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser 4pm ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.Ar ôl ichi roi eich manylion personol ar ffurflen gais, byddant yn cael eu storio i'w defnyddio gyda phob cais a wnewch chi yn y dyfodol.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Mae’r cyfle hwn ar gau i geisiadau.