Pan fyddaf yn ceisio cofrestru, rwy’n cael neges i ddweud fod gen i gyfrif yn barod

Nid yw’n bosibl creu dau gyfrif gyda’r un cyfeiriad e-bost.

Os byddwch chi’n ceisio cofrestru gyda chyfeiriad e-bost sydd wedi’i gofrestru’n barod, byddwch yn cael y neges gwall ganlynol:

"Mae cyfrif wedi cael ei gofrestru gyda'r cyfeiriad e-bost rydych chi wedi'i roi yn barod. Defnyddiwch y ddolen ‘Ailosod Cyfrinair’ ar ochr chwith y dudalen hafan i ailosod eich cyfrinair.”

Dylech ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost ar gyfer eich holl geisiadau er mwyn gallu eu cysylltu â’i gilydd.

Sut i wirio os oes gennych chi gyfrif yn barod

Os nad ydych chi’n siŵr a oes gennych chi gyfrif neu os ydych chi’n cael trafferth cofrestru eich cyfrif ebost, efallai bod gennych chi fanylion mewngofnodi gyda ni’n barod. Defnyddiwch y ddolen atgoffa i gael eich cyfrinair drwy ebost.

Fel arall, efallai y byddwch yn cael y neges hon, bob tro y byddwch chi’n ceisio cofrestru:

‘Rydym wedi gweld bod gennych chi enw defnyddiwr a chyfrinair cydnaws yn barod.

Mae’r Ffurflen Gais hon yn caniatáu i chi fewngludo unrhyw wybodaeth gyffredin, fel manylion personol a manylion addysg, i’r ffurflen gais heb orfod aildeipio.

Os ydych chi wedi anghofio eich manylion mewngofnodi, cliciwch y ddolen ‘Atgoffa Cyfrinair’ ar y chwith a byddwn ni’n eu hanfon atoch drwy ebost.’

Os ydych chi, am ba reswm bynnag, wedi cofrestru mwy nag un cyfrif gan ddefnyddio’r un cyfeiriad ebost, nid yw’n golygu y bydd eich enw defnyddiwr yr un fath ar gyfer pob cyfrif.

Os mai dyma eich enw defnyddiwr ar gyfer y cyfrif cyntaf:
5andra@derbusbahnof.com

Yna, mae’n bosibl iawn mai enw defnyddiwr eich ail gyfrif fydd:
5andra@derbusbahnhof.com1

Os oes gennych chi fwy nag un cyfrif, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r un cyfrif ar gyfer pob cais. Nid yw dechrau ffurflen gais gan ddefnyddio un cyfrif yn golygu y gallwch chi gael mynediad at yr un ffurflen gais gan ddefnyddio cyfrif gwahanol. Yn yr un modd, ni fydd manylion mewngofnodi cyfrif 2 yn caniatáu i chi fewngofnodi i ffurflen gais a ddechreuwyd gan ddefnyddio cyfrif1.

Pynciau Cysylltiedig