LLYWODRAETH CYMRU
Swyddi gwag
Methu Golygu Meysydd
Rydych chi wedi ceisio golygu rhai meysydd sydd wedi’u cwblhau ond nid yw’n bosibl cadw’r newidiadau diweddaraf. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod:
Sut i Olygu Meysydd sydd wedi cael eu Cwblhau
Y peth cyntaf i’w wneud yw gwneud copi o’r wybodaeth rydych chi wedi’i chadw ar y dudalen honno ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw clirio’r dudalen gyfan. Gwnewch hyn drwy glicio ar y ddolen ‘Cliciwch yma i glirio pob maes’ - sydd i’w weld o dan ‘Cadw a Bwrw Ymlaen’. Bydd hyn yn tynnu’r holl ddata ym mhob maes ar y dudalen honno. Ar ôl clirio'r meysydd, dylech allu cadw unrhyw wybodaeth newydd.
Mae’r botwm ‘Ailosod y dudalen’ yn cael ei ddefnyddio i ddod o hyd i unrhyw ddata rydych chi wedi’i ddileu ar y dudalen honno cyn i chi bwyso’r botwm ‘Cadw a Bwrw Ymlaen’ rydych chi’n ei ddefnyddio i fynd i’r dudalen nesaf. Er enghraifft, pe baech chi’n dileu eich cyfeiriad drwy ddamwain, gallwch bwyso’r botwm ‘Ailosod y dudalen’ a chael y wybodaeth honno’n ôl cyn belled nad ydych chi wedi symud ymlaen i’r dudalen nesaf drwy bwyso’r botwm ‘Cadw a Bwrw Ymlaen’.