Mae fy nghyfeiriad e-bost wedi newid

Os nad yw'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch chi gofrestru am y tro cyntaf ar gael gennych chi bellach, gallwch newid eich manylion yn y Ganolfan Ymgeisio.

Sut mae newid eich cyfeiriad e-bost

Y Ganolfan Ymgeisio ywr man lle gwnaethoch gais. Mewngofnodwch gan ddefnyddior manylion a roddwyd gennych yn wreiddiol a chlicio ar Golygu Manylion Personol. Bydd hyn yn eich galluogi i olygu a diweddaru eich manylion personol, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfeiriad cartref. Sylwch: os ydych chi wedi newid eich cyfeiriad e-bost, ni fydd eich enw defnyddiwr yn newid.

Fel arall, gallwch roi eich cyfeiriad e-bost newydd i ni drwy lenwi’r ffurflen gymorth. Bydd yn rhaid i chi nodi pwy ydych chi drwy gyflenwi o leiaf ddau or canlynol: enw defnyddiwr, cyfrinair neu god post eich cartref. Am resymau diogelwch a chyfreithiol, allwn ni ddim newid unrhyw fanylion cyfrif heb gael manylion adnabod ac awdurdodiad priodol. I anfon e-bost, ewch i’r dudalen Cysylltu â Cymorth Technegol. Cofiwch y gallai gymryd 48 awr i gwblhau’r newid hwn.

Pynciau Cysylltiedig