Dirprwy Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru

Cyf 387

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Manylion swydd wag

Dirprwy Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru 

07/12/2023, 16:00 

Sylfaenol
publicappointments@gov.wales
Arall
Dirprwy Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru
Ar draws y DU / Lleoliad Gweithio Hyblyg

Gofynion y Gymraeg

3 - Er nad yw sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, byddai eu cael yn gaffaeliad. Mae’r rôl hon yn rôl lle mae sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol.
1 - Gallu darllen ambell air ac ymadrodd syml a’u deall
1 - Gallu cynnal sgwrs syml yn y Gymraeg
1 - Gallu deall rhannau o sgwrs syml
1 - Gallu ysgrifennu negeseuon syml am bynciau bob dydd

Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw ymgeisydd sydd â nam, cyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd â namau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelodau staff) berfformio o’u gorau.

Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr â nam neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. 

Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.

Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.


Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:

  • ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall
  • gofyn am addasiad recriwtio i’ch helpu i gyflwyno eich cais

Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi. 

Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.

Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon.  Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg. 

I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.

Mae’r cyfle hwn ar gau i geisiadau.