LLYWODRAETH CYMRU
Swyddi gwag
Cymorth Busnes – Cafcass Cymru (Gogledd Cymru)
Cyf 726
Manylion swydd wag
Cymorth Busnes – Cafcass Cymru (Gogledd Cymru)
28/02/2024, 16:00
Mae Cafcass Cymru yn un o Is-adrannau'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Llywodraeth Cymru. Mae Cafcass Cymru yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant wedi'u heffeithio gan achosion llys teuluol. Mae gan Cafcass Cymru 11 o swyddfeydd ar draws Cymru o fewn pum ardal weithredol ddaearyddol. Y pum ardal ddaearyddol yw:
Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gogledd Cymru (swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Wrecsam). Mae swyddi Cymorth Busnes yn Cafcass Cymru yn ganolog wrth roi cymorth hanfodol i'r timoedd gweithredol o fewn y sefydliad, a sicrhau bod y timoedd gweithredol yn cael eu rheoli mewn modd hwylus ac effeithlon. Mae'r swyddi hyn yn unigryw o fewn Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Rheolwyr Ymarfer, Cynghorwyr Llys Teulu/Gweithwyr Cymdeithasol Llys Teulu a Rheolwyr Cymorth Busnes i ddarparu gwasanaeth effeithiol i Lysoedd Teulu ar draws Cymru. Mae'r maes gwaith hwn yn ymwneud â gwybodaeth sensitif, gyfrinachol a manwl iawn, gan fydd y deiliaid swydd yn ymdrin â gwybodaeth ynglŷn ag achosion wrth gefnogi gwasanaethau ar gyfer plant agored i newid yn ystod cyfnodau anodd iawn yn eu bywydau. |
- Darparu gwasanaeth cymorth gweithredol cynhwysfawr gan gynnwys sgrinio ceisiadau a gorchmynion llys, fformatio dogfennau cyfrinachol, drafftio gohebiaeth a chofnodion i safon uchel, trefnu cyfarfodydd, monitro'r mewnlif gohebiaeth, ffeilio a dyletswyddau gweinyddol eraill, wrth fodloni terfynau amser tyn.
- Cyfathrebu'n broffesiynol ac effeithiol ag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol gan gynnwys llysoedd, yr Heddlu ac Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, cyfreithwyr, ymarferwyr gwaith cymdeithasol a defnyddwyr gwasanaethau
- Delio â thrafodaethau ffôn sensitif ac ymholiadau wrth y dderbynfa gan ddefnyddwyr gwasanaethau fel bo angen.
- Bod yn gyfrifol am eich tasgau mewnbynnu data eich hun, cyfrannu at sicrhau dilysrwydd y data yn system rheoli achosion Cafcass Cymru (IRIS), adrodd am wallau a rhoi cymorth a chyngor i gydweithwyr.
- Cyfrannu at gadw a chynnal cofnodion mewnol, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag achosion, sicrhau bod cofnodion iShare wedi'u cwblhau a bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth.
- Bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl wybodaeth gyfrinachol yn cael ei thrin yn effeithlon ac yn briodol ac yn unol â'r arweiniad a’r dogfennau polisi perthnasol.
- Cyfrannu at sicrhau bod y swyddfa’n cael ei rheoli’n hwylus o ddydd i ddydd, gan ymdrin â gohebiaeth, ei chofnodi a'i dosbarthu, a chynnal a dyrannu offer swyddfa.
- Efallai bydd angen i ddeiliad y swydd ymgymryd â dyletswyddau eraill o fewn ei dîm er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaethau corfforaethol, e.e. Swyddog Cymorth Cyntaf, Swyddog Tân, Swyddog Asesu Cyfarpar Sgrin Arddangos.
Mae’r hysbyseb hwn yn cynnwys teitlau y meini prawf ag asesir trwy gydol y cais. Am fwy o wybodaeth, gwasgwch “gwneud cais” er mwyn gweld holl manylion y gofynion sydd ar y ffurflen cais.
Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gorfod aros yn y swydd am o leiaf 2 flynedd cyn bod yn gymwys i symud swyddi (amod eu bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill sy'n gymwys ar y pryd).
Mae staff cymorth busnes Cafcass Cymru yn darparu gwasanaeth llinell flaen sy’n gweithredu rhwn 9yb a 5yh, er bod hyblygrwydd o ran oriau gwaith sy’n gymwys o’r angen busnes.
Lleoliad y swydd – Mae'r hysbyseb hon yn cwmpasu swyddi gwag yn ardal Gogledd Cymru (Swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno a Wrecsam).
Mae gan Cafcass Cymru ddull gweithredu cyfunol a hyblyg sy'n cynnwys gweithio yn y swyddfa ac o bell, gan ystyried anghenion y busnes a sut mae defnyddwyr y gwasanaeth yn dymuno ymgysylltu â ni. Felly, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl y bydd angen iddynt fynd i'r swyddfa benodedig yn rheolaidd.
Caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu penodi yn nhrefn teilyngdod i swyddi gwag sydd ar gael ar unwaith. Cedwir rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi i rôl o fewn 12 mis i'r cynnig cychwynnol os bydd swydd addas yn codi.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiol o brofiadau byw a phroffesiynol. Mae Cafcass Cymru wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad cynyddol amrywiol sy'n diwallu anghenion yr ystod amrywiol o ddefnyddwyr gwasanaeth. Ategir hyn gan ddull deinamig o ddysgu a datblygu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys Y Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig, Rhwydwaith PRISM LHDTRh+, a'r Rhwydwaith Menywod Ynghyd.
Gofynion y Gymraeg
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Proses a Chamau Dethol
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Nifer y Camau: | Proses 2 gam |
---|---|
Cam 1 | Cais |
Cam 2 | Cyfweliad |
Ymddygiad
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y meini prawf Ymddygiad hyn yn ystod y broses ddethol.
Cydweithio
Arweinyddiaeth
Rheoli Gwasanaeth o Ansawdd
Cyflawni’n Gyflym
Cryfderau
Chwaraewr Tîm
Trefnwr
Cymhwysedd
Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas hyn yw gweld a ydych chi’n gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofyniad ar gyfer gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried ymhellach. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl, neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Mae’r swydd hon yn agor yn fras i’r grwpiau canlynol:
• gwladolion y DU
• gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
• gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan EUSS
• unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
• gwladolion Twrci, a rhai aelodau o deulu gwladolion Twrci sydd wedi cronni’r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd âg amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelodau staff) berfformio o’u gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Gweithle Gwych i Gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
Partneriaeth Gymdeithasol
Yn Llywodraeth Cymru, mae’r berthynas rhwng y cyflogwr a’r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw i reolwyr ac undebau llafur gydweithio.
Dyma’r 3 undeb llafur a gydnabyddir gennym:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae’r berthynas hon yn seiliedig ar gytundeb partneriaeth. Mae hwn yn nodi sut mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• Cyflog
• Telerau ac amodau
• Strategaeth, polisïau a gweithdrefnau AD
• Iechyd, diogelwch a lles
• Newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i roi llais go iawn i’w haelodau yn y gweithle. Maent yn gwneud yn siŵr bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a’u gwarchod. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth â’i hundebau llafur. Rydym yn eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle. Rydym yn eich annog i ddysgu mwy am ein hundebau llafur, am weithio mewn partneriaeth, ac i gymryd rhan yn eu gwaith.
Buddiannau
Mae holl staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil, ac o ganlyniad maent yn gymwys ar gyfer:
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer rhan amser)
- cyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Trefniadau gweithio hyblyg Gweithio'n Glyfar
- Cynllun Car Gwyrdd (ar yr amod ei fod ar gael)
Os ydych chi’n aelod gweithredol o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gallwch barhau â’ch aelodaeth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.
Egwyddorion a chwynion recriwtio
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn.
Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag.
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
- ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall
- gofyn am addasiad recriwtio i’ch helpu i gyflwyno eich cais
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglyn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Darllenwch y canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.
Mae’r cyfle hwn ar gau i geisiadau.