Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am: • Arwain ar arfarnu cynigion peirianneg awdurdodau lleol sy'n ceisio cyllid FCERM. • Darparu cyngor technegol i Weinidogion ac uwch swyddogion ynghylch problemau cymhleth FCERM. • Cynorthwyo gyda Busnes y Llywodraeth ynghylch problemau llifogydd cymhleth neu gynlluniau dadleuol. • Cynorthwyo i asesu effaith opsiynau polisi (Cymru a'r DU), datblygu a chynnal asesiadau effaith ar gyfer yr ystod lawn o effeithiau polisi. • Cynorthwyo i fonitro a gwerthuso canllawiau technegol a pholisi FCERM yn barhaus, gan ddatblygu argymhellion ar gyfer newid lle bo angen. • Gweithio gyda chydweithwyr rheoli rhaglenni i sicrhau bod y Rhaglen FCERM flynyddol gwerth £77m yn gyraeddadwy ac yn fforddiadwy. • Cynorthwyo ar elfennau penodol o ystyriaethau cyllidebol mwy yn eich maes polisi • Cynorthwyo i fonitro a gwerthuso polisi yn barhaus a datblygu argymhellion ar gyfer newid. • Rhoi cyngor, lle bo angen, i'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol os oes angen. • Efallai y bydd tasgau ychwanegol yn gysylltiedig â digwyddiad llifogydd, gan gynnwys briffio brys, ymweliadau a'r safle ac angen asesu ac arfarnu atgyweiriadau brys i asedau FCERM. • Cyfrannu cyngor ac arbenigedd at drafodaethau strategaeth a pholisi ehangach i helpu i gyflawni amcanion ar lefel Ranbarthol, Cyfarwyddiaeth a LlC. |