Beth fyddwch chi'n ei wneud? Byddwch yn arwain y timau Diogelwch ar y Ffyrdd a Bathodyn Glas yn LlC, y mae eu swyddogaethau'n cynnwys arwain ar ddatblygu a gweithredu polisi diogelwch ar y ffyrdd, cefnogi awdurdodau lleol i wneud eu dyletswyddau diogelwch ar y ffyrdd a chefnogi cynlluniau bathodyn glas. Datblygu a Gweithredu Polisi · Arwain y gwaith o gynnal y Cynllun Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd newydd · Rhoi argymhellion Pwyllgorau'r Senedd a'r adolygiad o'r cynllun Bathodyn Glas ar waith. · Arwain ar weithredu a datblygu polisi parcio, digideiddio Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, a Cherbydau Awtonomaidd. · Cysylltu â Llywodraeth y DU a'i hasiantaethau ar feysydd sydd heb eu datganoli, gan gynnwys troseddau traffig, trwyddedu gyrwyr a cherbydau, rheoliadau cerbydau, microsymudedd, cerbydau awtomataidd. · Paratoi a thrafod newidiadau i is-ddeddfwriaeth, yn ôl yr angen · Rhoi cyngor ar faterion polisi a thechnegol i Weinidogion, Uwch swyddogion, y Bwrdd Partneriaeth Diogelwch ar y Ffyrdd a'i is-grwpiau · Gweithio gydag arweinwyr tystiolaeth yn Llywodraeth Cymru a TrC ar gryfhau'r broses o fonitro a gwerthuso cynlluniau ac ymyriadau diogelwch ar y ffyrdd, y dangosyddion a'r targedau datblygu ynghyd â gwella adroddiadau. Goruchwylio cyllid · Goruchwylio'r gwaith o ddyrannu cyllid ar gyfer cynlluniau diogelwch ffyrdd a ffyrdd heb eu mabwysiadu i awdurdodau lleol fel rhan o'r Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol. · Goruchwylio cyllid ar gyfer partneriaid cyflenwi trydydd sector. · Trafod paramedrau cyllido ar gyfer gorfodi camerâu a mentrau ategol gyda GoSafe a'r heddluoedd fel partneriaid allweddol, a rheoli'r berthynas ariannu grant. · Arwain ar faterion caffael contractau allanol i gefnogi ein gwaith a grantiau newydd, yn ôl yr angen. Cysylltu a Chyfathrebu â Rhanddeiliaid ac ar Draws y Llywodraeth · Darparu goruchwyliaeth strategol i berthynas rhanddeiliaid â phartneriaid trydydd sector a phartneriaid cyflenwi eraill, gan gynnwys Gwasanaethau Brys, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Awdurdodau Lleol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig, CLlLC, a RoSPA. · Cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn fforymau diogelwch ffyrdd ledled y DU a'r byd, gan sicrhau bod polisi diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru yn siapio ac yn cael ei lywio gan arferion gorau cenedlaethol a rhyngwladol. · Adeiladu perthynas effeithiol gyda'r Pennaeth Cyflawni Diogelwch ar y Ffyrdd yn yr Is-adran Datblygu Ffyrdd Strategol i sicrhau aliniad rhwng polisi a chyflawni. · Arwain y trafod â gweithwyr proffesiynol ac academyddion sy'n gweithio yn y sector · Ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol i'w helpu i integreiddio polisïau a rhaglenni trafnidiaeth; arwain yr ymgysylltu a'r cydweithredu rhwng adrannau ar amcanion a rhaglenni trawsbynciol · Cefnogi gwaith trawsbynciol yr adrannau a'r is-adrannau yn ôl yr angen · Gweithio'n agos gyda'r tîm cyfathrebu a swyddfa'r wasg a'u cynghori ar yr holl faterion polisi a thechnegol a ddaw o fewn cwmpas y swydd. Arweinyddiaeth · Rhoi arweiniad a datblygiad ar gyfer y swyddogaeth diogelwch ffyrdd a bathodyn glas, gan sicrhau llwythi gwaith cynaliadwy a safonau proffesiynol uchel. |