Mae'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) yn un o asedau seilwaith mwyaf hanfodol Cymru, sy'n werth tua £21 biliwn. Er mai dim ond 5% o gyfanswm hyd y ffyrdd ydyw, mae tua traean o'r holl draffig ffyrdd yn teithio arno, gan chwarae rôl allweddol wrth gysylltu cymunedau, galluogi twf economaidd, a sicrhau mynediad at wasanaethau hanfodol. Mae'r swydd hon yn rhan o ymgyrch recriwtio ehangach i gryfhau Is-adran Rhwydwaith Ffyrdd Strategol Llywodraeth Cymru. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn adeiladu tîm amrywiol a medrus i wella ein gallu fel awdurdod priffyrdd—gan sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu seilwaith trafnidiaeth diogel, effeithlon a chynaliadwy ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm cynhwysol sy'n canolbwyntio ar gyflawni a helpu i lunio dyfodol yr SRN—gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, cysylltedd ac economi Cymru. Beth byddwch yn ei wneud Fel rhan o'r gangen Rheoli Asedau a Safonau, byddwch yn llywodraethu cynlluniau yn dechnegol i weithredu, cynnal a gwella'r SRN ar ran Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys: - Mynd ati’n rhagweithiol i reoli ac arfarnu cyflwyniadau am gymeradwyaeth dechnegol ar gyfer ystod o sefyllfaoedd gan gynnwys asesiadau strwythurol, cryfhau a dylunio strwythurau newydd
- Paratoi Atodiadau Cais Cenedlaethol i safonau'r Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd a dogfennau'r Canllawiau ar Weithdrefnau a Chyngor (PAG)
- Archwilio'r gwaith o gyflawni prosiectau cynnal a chadw, gwella ac uwchraddio yn unol a safonau a pholisïau, cyllidebau a rhaglenni Llywodraeth Cymru
- Darparu cyngor i Asiantau Cefnffyrdd, Awdurdodau Lleol, Peirianwyr Ymgynghorol a Chontractwyr yn ôl yr angen ar safonau technegol strwythurol
Mae'r holl waith yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a'n hymrwymiadau gwella amgylcheddol. Ffocws Allweddol Yn y rôl hon, byddwch yn sicrhau: - bod safonau Llywodraeth Cymru yn cael eu cymhwyso'n gyson—yn cyfrannu at Atodiadau Cais Cenedlaethol a PAG, ac yn ymgorffori diweddariadau mewn prosiectau byw
- bod penderfyniadau yn optimeiddio canlyniadau oes gyfan – yn cydbwyso diogelwch y cyhoedd, argaeledd y rhwydwaith, cost a charbon
- bod risgiau yn cael eu mynegi a'u rheoli'n glir - cynnal cofrestrau risg byw ac yn uwchgyfeirio'n brydlon lle gellid effeithio ar ddiogelwch neu argaeledd
- bod offer digidol, dulliau arolygu modern a dulliau sy'n seiliedig ar risg yn cael eu defnyddio i wella mewnwelediad, effeithlonrwydd a dulliau olrhain ar draws y portffolio strwythurau
- bod strwythurau yn cael eu hasesu, eu cryfhau, eu hadnewyddu a'u monitro yn ôl yr angen, gan ddefnyddio'r dulliau mwyaf cost-effeithiol a lleiaf aflonyddgar i sicrhau bod y rhwydwaith ar gael a sicrhau diogelwch y cyhoedd
- bod data asedau cyfredol o ansawdd uchel yn cael eu dal a’u cynnal, gan sicrhau bod strwythurau yn cael eu cefnogi gan wybodaeth gywir a gweithredol sy'n seiliedig ar gyflenwi effeithlon, prisio cadarn, a dulliau rheoli gydol oes effeithiol
Pam Ymuno â Ni? Rydym yn ymrwymedig i adeiladu gweithlu amrywiol a chynhwysol sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a phrofiad. Byddwch yn ymuno â thîm sy'n gwerthfawrogi cydweithredu, arloesedd a gwelliant parhaus, a lle bydd eich gwaith yn cael effaith diriaethol ar ddyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Byddwch hefyd yn elwa ar becyn eithriadol i weithwyr. Fel un o weithwyr Llywodraeth Cymru, byddwch yn cael eich cofrestru'n awtomatig yng Nghynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, sy'n cynnig un o'r cyfraddau cyfraniadau cyflogwr mwyaf hael yn y DU (cyfraniad cyflogwr o 28.97%), gan ddarparu sicrwydd ariannol hirdymor sy'n anodd ei gyfateb mewn mannau eraill. Byddwch yn gweithio wythnos 37 awr, gan fwynhau 31 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc a breintiau, ochr yn ochr â threfniadau gweithio hyblyg a dull gweithio hybrid sydd wedi'i gynllunio i gefnogi llesiant, cydbwysedd bywyd a gwaith a chynhyrchiant. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o fuddion ychwanegol, gan gynnwys cynlluniau beicio a cheir gwyrdd, tocynnau tymor rhatach i'w defnyddio ar y rhwydwaith rheilffyrdd, a mynediad at raglenni llesiant a chymorth i weithwyr. Am ragor o wybodaeth, ewch i Tâl, pensiynau a buddion | LLYW. CYMRAEG |