LLYWODRAETH CYMRU
Swyddi gwag
Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi - Gradd 6
Cyf 420
Manylion swydd wag
Pennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi - Gradd 6
28/11/2023, 16:00
I: Arwain polisi a darpariaeth AGIC o ran camau uwchgyfeirio a gorfodi yn y GIG a’r sectorau gofal iechyd annibynnol.
I: Goruchwylio, gan sicrhau bod gweithgareddau cofrestru, arolygu gofal iechyd annibynnol a gorfodi AGIC yn cael eu darparu’n effeithiol, gan gefnogi rôl AGIC fel rheoleiddiwr gofal iechyd annibynnol yng Nghymru.
I: Goruchwylio rhaglen adolygiadau AGIC.
I: Arwain tîm ymchwilio AGIC, gan sicrhau bod pryderon, hysbysiadau rheoleiddio ac ymchwiliadau i farwolaethau yn y ddalfa yn cael eu rheoli ac y gweithredir arnynt mewn modd amserol ac effeithiol.
Disgrifiad gradd:
Beth fydd eich sefydliad yn ei ddisgwyl?
A) Rolau Proffesiynol
- Byddwch yn Brif Gynghorydd neu’n Gynghorydd Proffesiynol ar gyfer pwnc/maes penodol, ar ran y sefydliad. (Gall hyn gynnwys cymhwyster proffesiynol neu aelodaeth o broffesiwn siartredig).
B) Rolau Cyffredinol
- Bydd gennych brofiad o gyflawni prosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn arwain neu’n rheoli nifer o ffrydiau gwaith (pedair o leiaf) neu bydd gennych gyfrifoldeb trosfwaol drostynt.
- Byddwch yn gallu delio â phroblemau cymhleth, gan ddangos crebwyll sylweddol heb fawr ddim cynsail/arweiniad, a defnyddio syniadau creadigol ac arloesol i ddatblygu dulliau newydd o sicrhau canlyniadau gwell i Gymru.
- Bydd gennych adnabyddiaeth drylwyr o’r sefydliad, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol glir o'r amgylchedd gweithredu allanol. Byddwch yn ymwybodol yn wleidyddol a byddwch yn ystyried goblygiadau hirdymor newidiadau polisi a newidiadau eraill, gan ddehongli tueddiadau a datblygiadau, ac yn llunio polisïau a strategaethau sefydliadol ar gyfer y dyfodol ar sail y rhain.
Beth fydd eich tîm yn ei ddisgwyl?
- Byddwch yn arweinydd cryf sydd â phrofiad o adeiladu a datblygu timau sy'n perfformio'n dda, a byddwch yn ysbrydoli ac ysgogi er mwyn cyflawni canlyniadau drwy eraill. Byddwch yn gallu meithrin cydweithrediad rhwng timau a darparu cyfeiriad ar draws timau.
- Bydd gennych ddealltwriaeth amlwg o amrywiaeth, cynhwysiant a chyfle cyfartal, a byddwch yn hybu diwylliant o gynhwysiant, gan greu amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo'n ddiogel i herio, rhannu syniadau a mynegi pryderon, a chan groesawu ffyrdd newydd o weithio.
- Byddwch yn creu diwylliant o hunanddatblygu parhaus ac yn dangos esiampl o ran dysgu a datblygu personol, gan annog eraill i fanteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael. Byddwch yn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i'r holl staff, beth bynnag fo'u cefndir, gan gefnogi pawb i wireddu eu potensial llawn.
Beth fydd eich rhanddeiliaid yn ei ddisgwyl?
- Byddwch yn sefydlu, yn meithrin ac yn cynnal perthnasoedd neu bartneriaethau effeithiol â rhanddeiliaid sefydliadol allweddol (e.e. Gweinidogion ac uwch-staff yn y sefydliad ac mewn sefydliadau allanol, a fydd yn aml yn arddel safbwyntiau croes).
- Bydd eich sgiliau cynrychioli a dylanwadu a’ch sgiliau rhyngbersonol a threfnu yn dda iawn, a byddwch yn gallu negodi'n effeithiol ag ystod o gysylltiadau a/neu berthnasoedd (e.e. cynghori Gweinidogion a/neu'r swyddogion allanol uchaf, gan weithredu fel prif gyswllt/cyswllt arweiniol ar ran y sefydliad).
- Byddwch yn gweithio ag elfen helaeth o annibyniaeth ac yn dangos gallu i wneud penderfyniadau (sydd â risg/effaith sylweddol) ar ran y sefydliad, gan bwyso a mesur yr effaith/risg sy'n gysylltiedig â'r penderfyniadau hynny.
Tasgau penodol i'r swydd
- Darparu arweinyddiaeth gorfforaethol fel aelod o Uwch Grŵp Arwain AGIC.
- Rhoi arweiniad i Bennaeth Gofal Iechyd Annibynnol a Swyddogaethau Statudol AGIC, gan sicrhau bod gweithgareddau arolygu a chofrestru gofal iechyd annibynnol yn gyson.
- Yn gyfrifol am arwain a chyflawni camau gorfodi yn unol ag arferion gorau Llywodraeth Cymru ac arferion gorau allanol. Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gydag uwch gydweithwyr, Gwasanaethau Cyfreithiol a'r proffesiwn cyfreithiol, a rhanddeiliaid allweddol.
- Yn gyfrifol am arwain camau uwchgyfeirio mewn perthynas â gwasanaethau'r GIG, gan ddefnyddio proses AGIC ar gyfer gwasanaethau sydd angen eu gwella'n sylweddol (SRSI). Bydd hyn yn golygu gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid perthnasol a dangos sgiliau ymgysylltu effeithiol.
- Rhoi arweiniad i Bennaeth Adolygiadau AGIC, gan sicrhau bod rhaglen gweithgarwch adolygu AGIC yn cael ei darparu mewn modd amserol ac i safon uchel.
- Rhoi arweiniad i dîm Ymchwiliadau AGIC, gan arwain ar bryderon a gaiff eu codi am wasanaethau gofal iechyd, ymateb i chwythwyr chwiban, goruchwylio hysbysiadau statudol, a sicrhau ansawdd ymchwiliadau i farwolaethau yn y ddalfa.
- Darparu rheolaeth linell effeithiol i'r Pennaeth Gofal Iechyd Annibynnol a Statudol, y Pennaeth Adolygiadau, yr Uwch Reolwr Uwchgyfeirio a Gorfodi, a'r Uwch Arolygydd - Ymchwiliadau.
- Cadeirio Pwyllgor Risg ac Uwchgyfeirio AGIC, gan sicrhau bod AGIC yn effeithiol wrth ystyried unrhyw newidiadau angenrheidiol sy’n seiliedig ar risg i’r rhaglen gyffredinol o weithgarwch sicrwydd.
- Datblygu a chynnal cydberthnasau effeithiol ar lefel uwch/strategol gyda chyrff nad ydynt yn ymwneud â gofal iechyd sy’n berthnasol i gwmpas y swydd gan gynnwys, er enghraifft, yr Heddlu.
- Cynrychioli barn AGIC ynghylch cyrff y GIG mewn cyfarfodydd teiran y GIG yn ôl yr angen, gan gyfrannu at y Fframwaith Uwchgyfeirio ac Ymyrraeth ar gyfer y GIG.
- Goruchwylio gwaith, fel y bo'n briodol, i ymateb i faterion a phryderon gofal iechyd sy'n dod i'r amlwg, a allai gynnwys:
- Gweithio gyda'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, gan ofyn am gyngor ar amrywiaeth o faterion lle y bo'n briodol
- Paratoi a chyflwyno tystiolaeth i'r Tribiwnlys Safonau Gofal neu'r Llysoedd
- Cydweithio â thîm Partneriaethau, Gwybodaeth a Methodoleg AGIC i adolygu fframweithiau arolygu, polisïau, canllawiau a gweithdrefnau AGIC ynghyd â’r llyfrau gwaith a’r dogfennau sydd eu hangen er mwyn cynnal arolygiadau effeithiol.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cydweithwyr yn AGIC, Llywodraeth Cymru, Darparwyr Gofal Iechyd, Arolygiaethau a phroffesiynau Gofal Iechyd eraill er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio i wella gwasanaethau gofal iechyd.
- Sicrhau bod trefniadau ar waith i sicrhau ansawdd yr holl brosesau ac allbynnau sy'n gysylltiedig ag arolygu Gofal Iechyd Annibynnol.
- Cynrychioli AGIC ar lefel y DU ac yn rhyngwladol drwy fynychu fforymau rheoleiddio, cynadleddau a gweithdai.
- Cyfrannu at weithgareddau sy'n ymwneud â'r cyfryngau a'r wasg a gweithgareddau eraill sy’n cyfleu gwybodaeth am raglen sicrwydd a chanfyddiadau AGIC.
Tasgau cyffredin
- Gweithio o dan ddirprwyaeth y Prif Weithredwr.
- Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.
- Cyfrannu at y broses o ddatblygu blaenraglen waith AGIC.
- Darparu arweinyddiaeth effeithiol a chefnogol yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru.
- Cydweithio â chydweithwyr ym mhob rhan o AGIC er mwyn sicrhau y caiff blaenoriaethau AGIC eu cyflawni.
- Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC.
- Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.
Mae'r hysbyseb hon yn cynnwys teitlau'r meini prawf Ymddygiad sy'n cael eu hasesu drwyddi draw. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ofynnol yn ystod y cam ymgeisio, bydd angen i chi bwyso ar Gwneud Cais a gweld y manylion llawn ar y ffurflen gais. Yn y cyfweliad, efallai y cewch eich profi ar yr ymddygiadau cyffredinol a restrir.
Wrth gyflwyno'ch tystiolaeth cofiwch ddisgwyliadau'r radd fel y nodir yn y disgrifiad gradd yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.
Ar gyfer y recriwtio yma, bydd pob un sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol yn symud ymlaen at gyfweliad.
Bydd angen cyflwyniad ar feini prawf Ymddygiad 4 (Gweld y Darlun Cyflawn) a meini prawf Profiad 2 (Yn gallu dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad perthnasol o wasanaethau gofal iechyd yn y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru) yng Ngham 2 (cyfweliad). Darperir mwy o wybodaeth yn y gwahoddiadau i'r cam hwnnw.
Yn yr achos fydd mwy nag un ymgeisydd yn sgorio'r un sgôr, mae'r panel wedi cytuno bydd y meini prawf canlynol yn pennu trefn teilyngdod:
- Sgôr meini prawf Profiad 1
Gofynion y Gymraeg
Proses a Chamau Dethol
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Nifer y Camau: | Proses 2 gam |
---|---|
Cam 1 | Cais |
Cam 2 | Cyfweliad |
Ymddygiad
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y meini prawf Ymddygiad hyn yn ystod y broses ddethol.
Arweinyddiaeth
Cyfathrebu a Dylanwadu
Cyflawni’n Gyflym
Gweld y Darlun Mawr
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Profiad
Yn meddu ar brofiad o lunio barn annibynnol, gredadwy a phroffesiynol wrth weithio mewn amgylchedd cymhleth a phroffil uchel
Yn gallu dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad perthnasol o wasanaethau gofal iechyd yn y sector cyhoeddus a phreifat yng Nghymru
Technegol
Byddwn yn asesu’r Sgiliau technegol canlynol yn ystod y broses ddethol.
Yn meddu ar brofiad perthnasol o arolygu/rheoleiddio yn y sectorau cyhoeddus neu breifat yng Nghymru neu rannau eraill o'r DU.
Cymhwysedd
Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas hyn yw gweld a ydych chi’n gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofyniad ar gyfer gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried ymhellach. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl, neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Mae’r swydd hon yn agor yn fras i’r grwpiau canlynol:
• gwladolion y DU
• gwladolion Gweriniaeth Iwerddon
• gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU
• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)
• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan EUSS
• unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny
• gwladolion Twrci, a rhai aelodau o deulu gwladolion Twrci sydd wedi cronni’r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Cynllun Hyderus o ran Anabledd
Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd âg amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pob aelod o staff (neu ddarpar aelodau staff) berfformio o’u gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Gweithle Gwych i Gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog
Partneriaeth Gymdeithasol
Yn Llywodraeth Cymru, mae’r berthynas rhwng y cyflogwr a’r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Credwn mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw i reolwyr ac undebau llafur gydweithio.
Dyma’r 3 undeb llafur a gydnabyddir gennym:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae’r berthynas hon yn seiliedig ar gytundeb partneriaeth. Mae hwn yn nodi sut mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• Cyflog
• Telerau ac amodau
• Strategaeth, polisïau a gweithdrefnau AD
• Iechyd, diogelwch a lles
• Newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i roi llais go iawn i’w haelodau yn y gweithle. Maent yn gwneud yn siŵr bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a’u gwarchod. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth â’i hundebau llafur. Rydym yn eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle. Rydym yn eich annog i ddysgu mwy am ein hundebau llafur, am weithio mewn partneriaeth, ac i gymryd rhan yn eu gwaith.
Buddiannau
Mae holl staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil, ac o ganlyniad maent yn gymwys ar gyfer:
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
- 31 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer rhan amser)
- cyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Cynllun Beicio i’r Gwaith
- Trefniadau gweithio hyblyg Gweithio'n Glyfar
- Cynllun Car Gwyrdd (ar yr amod ei fod ar gael)
Os ydych chi’n aelod gweithredol o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gallwch barhau â’ch aelodaeth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.
Egwyddorion a chwynion recriwtio
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn.
Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag.
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
- ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall
- gofyn am addasiad recriwtio i’ch helpu i gyflwyno eich cais
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Darllenwch y canllawiau i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.
Mae’r cyfle hwn ar gau i geisiadau.