Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o’r enw cwcis ar eich dyfais. Mae’r cwcis yn:- hanfodol i’r safle weithioHoffem hefyd gadw rhai cwcis i helpu i:- wella ein gwefan drwy gasglu a rhoi gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio- deilwra cyfathrebiadau
LLYWODRAETH CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
.
Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP)
02/11/2026, 16:00
Bydd disgwyl i Gynghorydd IAP Cymru ddarparu cyngor annibynnol, arbenigol i Weinidogion Cymru ar hybu a hwyluso'r defnydd o IAP yng Nghymru, a chefnogi'r broses o weithredu dyletswyddau Deddf IAP (Cymru) 2026 yn effeithiol. Mae dolen at Ddeddf IAP (Cymru) 2026 (y cyfeirir ati yn y ddogfen hon fel 'y Ddeddf') isod:
Deddf Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) 2026
Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr. Penodi Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP) ar gyfer Gweinidogion Cymru (fersiwn IAP): https://youtu.be/p3Ywqo0u_zQ
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus allu dangos y canlynol:
Cyfrifoldebau allweddol
Mae'r cyfrifoldebau canlynol yn disgrifio sut y disgwylir i Gynghorydd IAP Cymru weithredu'n ymarferol, gan gynnwys helpu i gyflawni'r swyddogaethau statudol a nodir yn Neddf IAP (Cymru) 2026:
Arweinyddiaeth strategol a hybu IAP
Rhoi cyngor a gwybodaeth i Weinidogion Cymru
Gweithio gyda'r gymuned IAP
Helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella
Llywodraethiant
Hysbysiad Preifatrwydd – Recriwtio Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP) (fersiwn IAP): https://youtu.be/ALJ3CrwmkgY
Porth Recriwtio Llywodraeth Cymru – Canllaw Gweithredu – Cais Ar-lein i fod yn Gynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP) (fersiwn IAP): https://youtu.be/5Zjjnq5fUhY
WeTransfer – Canllaw Gweithredu – datganiad personol ar gyfer swydd Cynghorydd Iaith Arwyddion Prydain (IAP) (fersiwn IAP): https://youtu.be/-IU6DK5pP60
Bydd y panel dethol yn asesu CV ysgrifenedig a datganiad personol ymgeiswyr (a gyflwynir naill ai mewn fformat ysgrifenedig neu fel fideo IAP), er mwyn penderfynu pwy sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol orau ar gyfer y rôl, a phwy i'w gwahodd i gyfweliad. Disgrifir y meini prawf hanfodol isod. Bydd y panel yn dibynnu ar yr wybodaeth y byddwch yn ei darparu yn eich CV a'ch datganiad personol i asesu a oes gennych y sgiliau a'r profiad angenrheidiol. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn darparu tystiolaeth i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol.
Bydd y panel dethol yn cael ei gadeirio gan Tracey Breheny, Llywodraeth Leol a Chynllunio a Chyfiawnder Cymdeithasol - Llywodraeth Cymru, a bydd hefyd yn cynnwys Andrew Charles, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymunedau Cydlynol - Llywodraeth Cymru, a Rebecca Mansell, Prif Weithredwr Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a Craig Crowley, Prif Weithredwr Byddardod Ymlaen fel Aelodau'r Panel Annibynnol. Bydd aelod o dîm Polisi IAP Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithredu fel arsylwr.
Rydym yn rhagweld y bydd y panel wedi penderfynu ym mis Rhagfyr 2026 pwy fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad ym mis Ionawr 2027. Dim ond yr ymgeiswyr cryfaf sydd, ym marn y panel, wedi dangos orau eu bod yn bodloni'r meini prawf hanfodol a nodwyd yn y swydd-ddisgrifiad fydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Fodd bynnag, os ydych wedi gwneud cais o dan y cynllun gwarantu cyfweliad a'ch bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, cewch chithau hefyd eich gwahodd i gyfweliad. Bydd cwestiynau'r cyfweliad yn cael eu darparu ymlaen llaw.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad gan y panel dethol, bydd disgwyl ichi hefyd gymryd rhan mewn sesiwn gydag aelodau o'r gymuned fyddar sy'n defnyddio IAP i drafod eu profiadau. Bydd y sesiwn yn para tua 45 munud. Yn y sesiwn hon, gofynnir ichi arwain trafodaeth drwy IAP gydag aelodau o'r gymuned fyddar sy'n defnyddio IAP. Bydd y panel trafod profiadau bywyd yn wahanol i'r panel cyfweld, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o gymunedau IAP byddar ledled Cymru.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn ceisio rhoi cymaint o rybudd â phosibl ichi am ddyddiad y cyfweliad. Os na allwch fod yn bresennol ar y dyddiad hwnnw, fe wnawn ymdrechu i aildrefnu, ond efallai na fydd hyn yn bosibl oherwydd cyfyngiadau amser o fewn yr amserlen benodi neu argaeledd y panel dethol. Cynhelir y sesiwn trafod profiadau bywyd ar-lein. Bydd gan ymgeiswyr a wahoddir i gyfweliad y dewis rhwng cyfweliad ar-lein neu gyfweliad wyneb yn wyneb yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd. Darperir rhagor o wybodaeth cyn hynny am drefniadau'r sesiwn drafod a'r cyfweliad.
Fe gewch e-bost gan ganolfan ymgeisio Llywodraeth Cymru i roi gwybod ichi os ydych wedi eich gwahodd i gyfweliad.
Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, bydd y panel yn eich holi am eich sgiliau a’ch profiad, gan ofyn cwestiynau penodol i asesu a ydych yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd.
Bydd yr ymgeiswyr y bydd y panel yn credu eu bod yn addas i'w penodi yn cael eu hargymell i'r Gweinidog, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Gall y Gweinidog ddewis cwrdd â'r ymgeiswyr hyn cyn gwneud penderfyniad. Os felly, bydd yn cyfarfod â'r holl ymgeiswyr ym mhresenoldeb cadeirydd y panel neu ei gynrychiolydd enwebedig. Bydd bwlch amser rhwng y cyfweliad a'r penderfyniad penodi terfynol. Bydd yr ymgeiswyr a fydd wedi'u cyfweld yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y broses.
Fel rhan o'r broses benodi, yn dilyn y cyfweliadau, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd a ffefrir fynd i wrandawiad cyn-penodi gyda Phwyllgor Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd. Darperir rhagor o wybodaeth ar yr adeg briodol.
Os byddwch yn llwyddiannus, fe gewch lythyr yn eich penodi’n Gynghorydd IAP, a fydd hefyd yn cadarnhau telerau eich penodiad.
Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwch yn cael gwybod drwy ganolfan ymgeisio Llywodraeth Cymru. Rydym yn sylweddoli bod ymgeisio am swyddi yn gofyn am lawer o amser ac ymdrech, a bod cael adborth yn rhan werthfawr o'r broses. Felly, bydd y llythyr yn nodi â phwy y gallwch gysylltu i gael adborth ar eich cais a'ch cyfweliad, os dymunwch wneud hynny.
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi’ch cais, fodd bynnag, rhaid i’r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn uniongyrchol seiliedig ar eich profiad personol chi. Os canfyddir llên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich syniadau neu brofiadau chi) gellir tynnu’r ceisiadau yn ôl.
Gweler y canllawiau i ymgeiswyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial am ragor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas hyn yw gweld a ydych chi’n gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofyniad ar gyfer gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried ymhellach. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl, neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Mae’r swydd hon yn agor yn fras i’r grwpiau canlynol:• gwladolion y DU• gwladolion Gweriniaeth Iwerddon• gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan EUSS• unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny• gwladolion Twrci, a rhai aelodau o deulu gwladolion Twrci sydd wedi cronni’r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd ag amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pawb a benodir i swydd gyhoeddus (neu benodeion newydd posibl) berfformio ar eu gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglyn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Darllenwch y gwybodaeth ategol/pecyn i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.I gael gwybodaeth am Broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil, cliciwch yma.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.