Rydym wedi cadw rhai ffeiliau o’r enw cwcis ar eich dyfais. Mae’r cwcis yn:- hanfodol i’r safle weithioHoffem hefyd gadw rhai cwcis i helpu i:- wella ein gwefan drwy gasglu a rhoi gwybodaeth am sut rydych chi’n ei defnyddio- deilwra cyfathrebiadau
LLYWODRAETH CYMRU
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad ymgeisydd yn ystod y broses ddidoli. Mae’r polisi hwn yn unol â’n hymrwymiad i ddileu rhagfarn, ac i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth.
.
Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Lle
16/10/2026, 16:00
Ystyr 'Cymru Gyfan' yw y gall deiliad y swydd fod wedi'i leoli mewn unrhyw swyddfa Llywodraeth Cymru, gan ddibynnu ar anghenion y busnes. Nid yw rolau sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gymru, gan gynnwys Llundain, ar gael oni bai eu bod wedi'u nodi'n benodol yn yr hysbyseb.
Mae rhestr o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gael yn www.llyw.cymru/swyddfeydd-llywodraeth-cymru. Sylwch na fydd hi efallai yn bosibl bodloni dewis rhywun o leoliad swyddfa penodol.
Ystyrir bod deiliad y swydd yn teithio o'i gartref i'r swyddfa Llywodraeth Cymru a neilltuwyd iddynt yn 'daith cymudo arferol', a rhaid iddynt ei gyflawni yn ei hamser a chost ei Hunain.
Mae'r Is-adran Lle yn rhan o'r Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio o fewn y Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Gwydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd.
Mae'r swydd hon yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le diogel, fforddiadwy i'w alw'n gartref yn y gymuned yr hoffent fyw ynddi.
Mae gwaith y gyfarwyddiaeth yn amrywiol, yn symud yn gyflym ac yn canolbwyntio'n frwd ar gyflawni ar gyfer Gweinidogion a phobl Cymru. Mae ein gwaith yn rhychwantu caffael a defnyddio tir, cefnogi’r gwaith o adeiladu cartrefi, adfywio ein trefi, dinasoedd a phentrefi, cefnogi'r rhai sy'n byw yn ein cartrefi a'n cymunedau a gweithredu fel stiward y system i sicrhau ansawdd yr hyn yr ydym yn ei adeiladu, ansawdd y lleoedd rydyn ni'n eu hadeiladu ynddynt a gwasanaethau landlordiaid a phreswylwyr.
Pwrpas yr is-adran, ac felly pwrpas y swydd, yw gweithio mewn partneriaeth ar draws y gyfarwyddiaeth a Llywodraeth Cymru yn ehangach a gyda llywodraethau a phartneriaid eraill i:
Arwain ar sefydlu Unnos, corff datblygu tir i Gymru sy'n galluogi darparu mwy o gartrefi ledled y wlad drwy ddatgloi rhwystrau, sicrhau cyllid preifat a chyflwyno tir i adeiladu arno.
Mae proffiliau llwyddiant y Gwasanaeth Sifil sy'n berthnasol i'r rôl hon i’w gweld isod (cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am broffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil).
Wrth wneud cais (datganiad personol a CV), dylech nodi’r dystiolaeth sydd gennych i ddangos eich bod yn bodloni gofynion manyleb y person, sydd i’w gweld isod (h.y. ymddygiadau a nodir yn y proffil llwyddian a’ch profiad).
Profiad
Rhaid ichi brofi bod gennych brofiad yn y farchnad eiddo a'r sector amgylchedd adeiledig, gan gynnwys datblygu tir a bod yn gymwys i MRICS.
Profiad o ddeall sut mae llywodraeth yn gweithredu, a gafwyd drwy weithio o fewn sefydliadau'r llywodraeth, ochr yn ochr â nhw neu drwy ymgysylltu â nhw.
Gweld y darlun cyflawn
Gwneud penderfyniadau effeithiol
Cyflawni'n Brydlon
Cyfathrebu a dylanwadu
Nod Llywodraeth Cymru yw bod yn sefydliad dwyieithog, er nad yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, maent yn cael eu croesawu a byddech chi'n cael cyfle i ddefnyddio'r sgiliau fel rhan o'ch gwaith arferol.
Cam 1 - Cais
I wneud cais ar gyfer y swydd hon, gofynnir ichi gyflwyno'r canlynol:
Ffurflen Gais
Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd ceisiadau yn y naill iaith neu'r llall yn cael eu trin yn gyfartal. Os oes gennych amhariad sy’n golygu na allwch wneud cais ar-lein, e-bostiwch RecriwtioUWS@llyw.cymru i ofyn am fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol ichi allu cyflwyno’ch cais.
CV
Rydym yn gweithredu proses recriwtio ddienw. Ni fydd y panel dethol yn gweld gwybodaeth bersonol wrth lunio rhestr fer yn unol â'n hymrwymiad i roi terfyn ar ragfarn a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Tynnwch eich enw o’ch CV a’ch datganiad personol.
Datganiad Personol
Byddwch yn llwytho eich datganiad personol ar y system ymgeisio ac ni fydd yn fwy na 1,250 o eiriau. Esboniwch sut mae eich cymwysterau, sgiliau, rhinweddau a phrofiad proffesiynol yn bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u cynnwys yn y fanyleb person.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu sy’n adlewyrchu’r gymdeithas y mae’n ei gwasanaethu – ar bob lefel. Gofynnir ichi gadarnhau rhywfaint o wybodaeth am amrywiaeth ar eich ffurflen gais. Mae casglu'r wybodaeth hon yn ein galluogi i nodi a ydym yn recriwtio o'r gronfa dalent ehangaf bosibl a gwirio bod pob grŵp yn cael ei drin yn deg drwy gydol y broses; ni fydd y ffurflen hon yn cael ei dangos i unrhyw un sy'n ymwneud ag asesu eich cais. Os nad ydych am ateb cwestiwn penodol, dewiswch yr opsiwn ‘gwell gennyf beidio â dweud’. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno’ch cais os bydd unrhyw gwestiynau heb eu hateb.
Cam 2 – Asesiadau
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwch yn cymryd rhan yn yr asesiadau canlynol:
Profion Seicometrig Ar-lein
Mae'r rhain yn cynnwys trafodaeth gyda seicolegydd drwy Microsoft Teams. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod i lunio rhestr fer. Ni fydd angen ichi wneud y profion hyn eto os ydych wedi eu cwblhau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar gyfer swydd ar yr un radd.
Ymarfer Ymgysylltuâ Staff /Rhanddeiliaid
Mae'r ymarfer hwn yn rhoi cyfle ichi gyflwyno eich profiadau, eich syniadau, a'ch barn ar arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer y swydd hon. Byddwch yn cwrdd â grŵp o staff drwy Microsoft Teams a allai fod yn aelodau tîm, cyfoedion, cydweithwyr neu randdeiliaid yn y dyfodol.
Cyfweliad ac Ymarfer Senario
yn eich cyfweliad, bydd y panel dethol wedi cael adborth ar eich profion seicometrig a’ch ymarfer cwrdd â staff a rhanddeiliaid.
Byddwch yn cael pwnc cyflwyniad cyn eich cyfweliad a gofynnir i chi roi cyflwyniad llafar 5 munud.
Bydd cyfweliadau yn para tua 45 munud a byddant yn ystyried sut mae'r sgiliau a'r profiad yn eich CV a'ch datganiad personol yn bodloni gofynion y rôl. Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal yn bersonol yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd.
Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn adnodd defnyddiol i gefnogi’ch cais, fodd bynnag, rhaid i’r holl enghreifftiau a datganiadau a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn uniongyrchol seiliedig ar eich profiad personol chi. Os canfyddir llên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu sydd wedi’u cynhyrchu gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich syniadau neu brofiadau chi) gellir tynnu’r ceisiadau yn ôl.
Gweler y canllawiau i ymgeiswyr ar Ddeallusrwydd Artiffisial am ragor o wybodaeth am ddefnydd priodol ac amhriodol.
Mae Llywodraeth Cymru, fel pob un o Adrannau eraill y Llywodraeth, yn defnyddio Proffiliau Llwyddiant wrth recriwtio. Ar gyfer pob rôl, byddwn yn ystyried yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos er mwyn llwyddo. Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i ni ddod o hyd i’r person iawn ar gyfer y swydd. Mae’n gwella perfformiad ac yn gwella amrywiaeth a chynhwysiant.
Dyma’r broses a’r camau dethol:
Byddwn yn eich asesu yn erbyn y meini prawf Ymddygiad hyn yn ystod y broses ddethol.
Gweld y Darlun Mawr
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Cyflawni’n Gyflym
Cyfathrebu a Dylanwadu
Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych chi hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Pwrpas hyn yw gweld a ydych chi’n gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofyniad ar gyfer gweithio yn y Gwasanaeth Sifil. https://www.gov.uk/government/publications/nationality-rules
Os nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn cael ei ystyried ymhellach. Os daw’n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl, neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Mae’r swydd hon yn agor yn fras i’r grwpiau canlynol:• gwladolion y DU• gwladolion Gweriniaeth Iwerddon• gwladolion gwledydd y Gymanwlad sydd â'r hawl i weithio yn y DU• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd â statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS)• gwladolion yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ac aelodau teulu’r gwladolion hynny sydd wedi gwneud cais dilys am statws sefydlog neu gyn-sefydlog o dan EUSS• unigolion â chaniatâd cyfyngedig i aros neu ganiatâd amhenodol i aros a oedd yn gymwys i wneud cais am EUSS ar 31 Rhagfyr 2020 neu cyn hynny• gwladolion Twrci, a rhai aelodau o deulu gwladolion Twrci sydd wedi cronni’r hawl i weithio yn y Gwasanaeth Sifil
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas sy’n analluogi pobl sydd ag amhariadau, neu gyflyrau iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rydym wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau yn y broses recriwtio fel y gall pawb a benodir i swydd gyhoeddus (neu benodeion newydd posibl) berfformio ar eu gorau.
Gellir gwneud addasiadau recriwtio ar unrhyw adeg yn y broses recriwtio ar gyfer ymgeiswyr ag amhariad neu gyflwr iechyd, sy'n niwroamrywiol neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cysylltwch â SicrhauAmrywiaethwrthRecriwtio@llyw.cymru i drafod addasiadau ar gyfer unrhyw ran o'r broses.
Buddiannau
Mae holl staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o’r Gwasanaeth Sifil, ac o ganlyniad maent yn gymwys ar gyfer:
Os ydych chi’n aelod gweithredol o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, gallwch barhau â’ch aelodaeth drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.
Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Edrychwch ar egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan y Comisiwn.
Os ydych chi’n teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn a’ch bod yn dymuno gwneud cwyn, anfonwch e-bost at cwynion@llyw.cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyfeirio at gyfeirnod y swydd wag.
Os nad ydych chi’n fodlon â’r ymateb a gewch gan Lywodraeth Cymru, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil: info@csc.gov.uk.
Rhaid i bob cais am y swydd hon gael ei wneud gan ddefnyddio ein system ymgeisio ar-lein.
Oni nodir fel arall yn y 'wybodaeth arall sy'n gysylltiedig â swydd wag ar gyfer hysbyseb', ni all Llywodraeth Cymru gynnig nawdd Fisa. Mae gan Lywodraeth Cymru drwydded nawdd Fisa, ond dim ond ar gyfer rhai rolau y gellir ei defnyddio ac nid yw'r ymgyrch hon yn gymwys.
Croesewir ceisiadau gan bobl ag ystod amrywiaeth o brofiadau bywyd a phroffesiynol. Rydym wedi ymrwymo'n weithredol i ddod yn sefydliad sy'n gynyddol amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae nifer o rwydweithiau Amrywiaeth y gall staff gymryd rhan ynddynt, sy'n cynnwys y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth a Chefnogi Anabledd (YChA); Rhwydwaith Staff Lleiafrifoedd Ethnig; Materion Meddwl (Iechyd meddwl a lles); PRISM (LGBTI+), Menywod Ynghyd and Rhwydwaith Niwrowahaniaeth.
Os oes gennych amhariad sy’n eich atal rhag ymgeisio ar-lein, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio. Gallwch:
Defnyddiwch y botwm 'Gwneud Cais' i gyflwyno eich cais. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i greu cyfrif i wneud cais. Mae cofrestru’n cymryd ychydig funudau a bydd angen cyfeiriad e-bost arnoch chi.
Dylech wirio eich Canolfan Cais yn reolaidd i gael diweddariadau eich cais. Hefyd, gwiriwch eich ffolder sbam/sothach rhag ofn i unrhyw gyfathrebu ynglyn â’ch cais a/neu eich manylion asesu ddod o hyd i'w ffordd yno.
Ar ôl i chi gofrestru i gael cyfrif a mewngofnodi, byddwch yn cael eich arwain at y ffurflen gais ar-lein. Rhaid i chi lenwi hon a’i chyflwyno cyn y terfyn amser ar y dyddiad cau. Ni fyddwn yn ystyried ffurflen gais anghyflawn.
Os hoffech wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen Newid Iaith ar y dudalen hon. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na rhai a gyflwynir yn Saesneg.
Darllenwch y gwybodaeth ategol/pecyn i ymgeiswyr i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Ar gyfer cynlluniau recriwtio TS i G6: Wrth gyflwyno’ch tystiolaeth y byddai'n ddefnyddiol i chi ystyried disgwyliadau'r radd fel y nodir yn y Disgrifiad Gradd, yn ogystal â'r prif gyfrifoldebau sy'n hanfodol ar gyfer y rôl.
Mae’r cyfle hwn ar gau i geisiadau.